Perthnasedd arbennig

Mewn ffiseg, mae theori arbennig perthnasedd (special theory of relativity), neu berthnasedd arbennig yn fyr, yn theori wyddonol ynghylch y berthynas rhwng gofod ac amser. Yn nhriniaeth wreiddiol Albert Einstein, mae'r theori wedi'i seilio ar ddau wireb: Mae deddfau ffiseg yn ddieithriad, yn union yr un fath, ym mhob ffrâm gyfeirio inertial (hynny yw, fframiau cyfeirio heb unrhyw gyflymiad). Mae cyflymder golau mewn gwactod yr un peth i bob arsylwr, waeth beth yw mudiant ffynhonnell y golau neu'r arsylwr. Hyd nes i Einstein ddatblygu perthnasedd cyffredinol, gan gyflwyno gofod-amser crwm (neu ar ffurf cromlin) i ymgorffori disgyrchiant, ni ddefnyddiwyd yr ymadrodd "perthnasedd arbennig". Cyfieithiad a ddefnyddir weithiau yw "perthnasedd cyfyngedig"; mae "arbennig" yn golygu "achos arbennig" mewn gwirionedd. Mae peth o waith Albert Einstein ar berthnasedd arbennig wedi'i adeiladu ar waith cynharach gan Hendrik Lorentz a Henri Poincaré. Daeth y theori yn ei hanfod yn gyflawn ym 1907.


Developed by StudentB